Mae'r faner enfys, a adweinir weithiau fel baner balchder hoyw a baner balchder LHDT, yn arwyddlun o falchder mudiadau cymdeithasol lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a thrawsrywdd (LHDT). Gall ddefnyddiau eraill baneri enfys gynnwys bod yn arwyddlun o heddwch. Mae'r lliwiau yn enghreifftio amrywiaeth y gymuned LHDT, a defnyddir y faner yn aml yn arwyddlun o falchder hoyw pan ddigwydd orymdeithiau hawliau pobl LHDT. Mae â'i tharddiad yng Ngogledd Califfornia, ond bellach defnyddir hi yn fyd eang.
Darluniwyd y faner gan Gilbert Baker o San Francisco ym 1976 ac ers hynny bu sawl newidiad iddi, megis tynnu ac ail-ychwanegu lliwiau yn ôl y ffabrigau sydd ar gael.[1][2] Ers 2008, mae'r faner mwyaf cyffredin yn cynnwys chwe streipen o goch, oren, melyn, gwyrdd, glas, a fioled. Fel arfer, y streipen goch sydd flaenaf fel mewn enfys naturiol.